Search website

About Llenwi

Dathliad o bobl a lleoedd gwych Conwy!

Prosiect arwyddion ar gyfer cyrchfan ydi LLENWI lle bydd Livi Wilmore (www.livicg.co.uk), artist realiti estynedig lleol a Tomos Jones (www.momosigns.co.uk), artist arwyddion traddodiadol, yn cydweithio i gynnal cyfres o weithdai a gweithgareddau cymunedol i greu 5 darn o waith celf mawr sy’n cyfuno eu harddulliau ar draws sir Conwy.

Bydd y prosiect hwn yn dod â byd realiti estynedig digidol Livi Wilmore a llythrennau hardd, traddodiadol Tomos Jones at ei gilydd - gan greu darnau pwysig o gelf yn Abergele, Bae Colwyn, Conwy, Llandudno a Llanrwst, a ddaw yn fyw trwy realiti estynedig wrth eu sganio gyda ffôn clyfar.

Mae cyfle i gymryd rhan trwy gyfres o weithdai sy’n cynnwys celf ddigidol a barddoniaeth. Bydd y sesiynau hyn yn ceisio tynnu ar eiriau, ymadroddion a delweddau sy’n golygu rhywbeth i’r ardal leol a chânt eu defnyddio i ysbrydoli’r gwaith celf a’r elfennau digidol.

Y cwestiwn mawr cyntaf… Lle dylid cynnal prosiect LLENWI? Rydym yn chwilio am leoliadau ar draws y 5 tref. Efallai bod wal blaen sydd angen ei goleuo a’i bywiogi?

Mae arnom ni hefyd angen cymorth i gasglu straeon, dywediadau, ymadroddion, atgofion, lluniau ac unrhyw beth arall am eich ardal. Does dim cyfyngiad ar beth a ellir ei gasglu, na sut caiff ei gyflwyno. Rhannwch eich straeon (doniol, gwirion neu drist), atgofion, dywediadau neu holwch ffrind / perthynas / cymydog / aelod o’r gymuned.

LLENWI FB BANNER