Conwy Archives Catalogue
Archwiliwch yr archifau a darganfod eich hanes…
Mae Gwasanaeth Archif Conwy yn casglu ac yn gofalu am gofnodion pwysig ar gyfer y sir gyfan. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Mapiau
- Planiau
- Lluniau
- Dogfennau
- Ffeiliau digidol
Maen nhw’n dod o ffynonellau fel:
- Pobl
- Busnesau
- Eglwysi a chapeli
- Ysgolion
- Llywodraeth leol
Mae gennym dros 75,000 o ddogfennau, yn cynnwys 15,000 o fapiau a chynlluniau a thua 50,000 o ddelweddau yn ein hystafell ddiogel a adeiladwyd yn bwrpasol.
Mae ein catalog ar-lein yn cynnwys llawer o’r eitemau yn yr Archifau - rydym yn ychwanegu ato drwy’r amser.