Search website

Hidden Women

Canolfan Ddiwylliant Conwy - Dydd Sul 1 Medi, 0:00 to Dydd Llun 30 Medi, 0:00

Arddangosfa gymunedol a ysbrydolwyd gan ddeiseb Heddwch Merched 1924. Yn cynnwys gwaith a gynhyrchwyd gan blant ysgol lleol a gyfarwyddwyd gan @rachelevans_celf

Mae eleni yn nodi 100 mlynedd ers i ferched Cymru drefnu deiseb Heddwch i’w chyflwyno i ferched America. Dros gyfnod byr iawn o 5 mis, llwyddodd gwirfoddolwyr i gasglu 390,296 o lofnodion merched ar draws Cymru. Casglwyd miloedd o lofnodion o ardal gogledd Cymru a Chonwy. Mae'r ddeiseb yn cynnwys llawer o lofnodion gan ferched blaenllaw'r cyfnod. Fodd bynnag, mae mwyafrif y llofnodion gan ferched cyffredin a oedd yn byw bywydau tawel, llawer ohonynt wedi'u hanghofio. Dyma'r merched rydym ni'n eu dathlu yn yr arddangosfa hon. Anrhydeddwn y merched lleol a lofnododd eu henwau i gefnogi'r freuddwyd o fyd di-ryfel i genedlaethau’r dyfodol . Mae'n debygol mai hon oedd y ddogfen swyddogol gyntaf i lawer o'r merched ei harwyddo erioed. Mae’r ddeiseb yn ddogfen unigryw i ferched yn ogystal ag yn ddogfen unigryw Gymreig. Trwy'r arddangosfa Merched Cudd, y gobaith yw tynnu sylw at rai o'r merched lleol a lofnododd. Chawn gipolwg ar fywydau merched yn y 1920au a'r hyn a allai fod wedi eu hysgogi i lofnodi deiseb dros heddwch.

I ddysgu mwy am Ddeiseb Heddwch y Merched ewch i:

www.wcia.org.uk/cy/academi-heddwch-cymru/deisebheddwch/