Search website

Noson gyda Trisha Ashley

Llyfrgelloedd Conwy - Dydd Gwener 26 Gorffennaf, 18:30 to Dydd Gwener 26 Gorffennaf, 19:30

Mae llyfrgelloedd Conwy’n falch o fod yn cynnal noswaith yng nghwmni’r awdur o Gonwy, Trisha Ashley ar Ddydd Gwener 26/7/24 am 6:30!

Efallai’ch bod chi’n un o’r llu o bobl sy’n hoff o ddarllen nofelau rhamantus doniol Trisha, sydd yn ddiweddar wedi ennill gwobr 'Nofel y Flwyddyn 2024 gan Gymdeithas y Nofelwyr Rhamant' am ei chyfrol ddiweddaraf, ‘The Wedding Dress Repair Shop’.

Cysylltwch â Llyfrgell Conwy i gadw’ch lle yn rhad ac am ddim.

01492 576089

llyfrgell.conwy@conwy.gov.uk

Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg yw hon.