Gŵyl Gelfyddydau i’r Teulu: Gweithdy Dawns Calan Gaeaf
Ar eich marciau, barod, dawnsiwch!
Ymunwch â ni am weithdy hanner diwrnod difyr a chyfeillgar lle gall plant ddysgu dawnsiau, magu hyder a darganfod sut beth yw perfformio o flaen camera.
Byddant yn dysgu coreograffi, cael hwyl yn perfformio a dangos eu sgiliau newydd trwy greu eu fideo dawnsio eu hunain ar thema Calan Gaeaf!
Nid oes angen unrhyw brofiad o ddawnsio na pherfformio – dewch draw yn barod i gael hwyl!
Dewch yn eich hoff wisg Calan Gaeaf a byddwch yn barod i ddawnsio!
10:00yb - 1:00yp | 1:30yp - 4.30yp
O £5.00
I Oedran 6-11 yn unig
Mae'r sesiynau yn wahanol, archebwch un, neu'r ddwy. (Os archebu'r ddwy, bydd rhaid i'r plant cael ei warchod gan riant/gwarcheidwad dros amser cinio).
Archebwch Nawr: Family Arts Festival : Halloween Dance - Workshop | Venue Cymraeg DDEV
Gwybodaeth:
- Peidiwch â chyrraedd mwy na 15 munud cyn amser dechrau’r sesiwn.
- Bydd Venue Cymru yn darparu Hebryngwyr ar gyfer y sesiwn, nid oes angen i rieni aros.
- Dylai pob myfyriwr ddod â byrbryd bach a photel o ddŵr gyda nhw.
- Mae croeso i chi ddod mewn gwisg Calan Gaeaf.
- Caiff Ffurflenni Meddygol a ffurflenni Cydsyniad i Dynnu Ffotograffau eu hanfon at rieni / gwarcheidwaid.