West End Workshop
Gweithdy’r West End yn dod â sêr a hud West End Llundain i Ogledd Cymru.
Mae’r gweithdy wythnos o hyd unigryw hwn yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc gydag awch am berfformio gael eu dysgu gan sêr o brif sioeau’r byd theatr.
Wedi’i ddylunio’n arbennig ar gyfer rhai 8 – 21 oed, mae’r gweithdy’n diweddu gyda pherfformiad byw o olygfeydd o rai o sioeau mwyaf y West End o flaen teulu a ffrindiau!
10:00yb - 17:00yp
Yr hyn a gewch:
- Perfformiad ar y prynhawn dydd Gwener yn Venue Cymru.
- Gwersi gan sêr y West End a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
- Dosbarth Meistri Dyddiol.
- Sylw unigol mewn dosbarthiadau maint bach i wneud y mwyaf o bob moment.
- Cyfle i wneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau newydd.
- Magu hyder ar y llwyfan ac oddi arno.
- Dau docyn am ddim i’r perfformiad. (Tocynnau ychwanegol ar gael i’w prynu)
- P’un a oes gennych lond trol o brofiad neu am ddarganfod eich talentau cudd, bydd gennym amgylchedd diogel a chefnogol i roi’r hyder i chi gyflawni eich potensial.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at info@westendworkshop.co.uk
£253 (Mae pris y tocyn yn cynnwys ffi weinyddol o £3)