Search website

Mr Phormula’n Fyw yn y Llyfrgell

Canolfan Ddiwylliant Conwy - Dydd Mercher 30 Tachwedd, 18:45 to Dydd Mercher 30 Tachwedd, 19:30

Mae Gigs y Gaeaf yn cyflwyno Mr Phormula – artist sy’n dolennu cerddoriaeth yn fyw a bît-focsiwr arloesol – yn fyw yn Llyfrgell Conwy.

Gyda gyrfa mor amrywiol â thirwedd Cymru, lle mae ei wreiddiau’n ddwfn, mae Mr Phormula’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel bît-focsiwr, rapiwr a chynhyrchydd blaenllaw o ganlyniad i’w berfformiadau a chyfansoddiadau lleisiol ysbrydoledig.

Bydd caffi Cantîn yn aros yn agored yn hwyr ar gyfer yr achlysur, ac yn gweini cawl, panini a chacennau.

Archebwch Nawr