Search website

ARCHWILIWCH EICH ARCHIF! - ARCHIFAU CONWY - DIGWYDDIAD RHAD AC AM DDIM

Canolfan Ddiwylliant Conwy - Dydd Gwener 2 Rhagfyr, 14:00 to Dydd Gwener 2 Rhagfyr, 16:30

Mae archifau yn llawn o bethau gwych a diddorol – nid dogfennau yn unig! Mae wythnos Archwilio Eich Archif yn gyfle i wasanaethau archif ledled y DU ac Iwerddon rannu eu trysorau gyda'r cyhoedd.

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim i’r cyhoedd i gael cyngor gan haneswyr teuluol, cadwraethwyr, ac arbenigwyr mewn hanes cymunedol ac amrywiol, i danio'r dychymyg a chael pawb i archwilio'r archif. Yn ogystal â chyflwyniadau gan ein tri siaradwr, cewch daith dywys o amgylch yr adeilad i gael cipolwg y tu ôl i’r llen a gweld drosoch eich hun lle mae'r holl drysorau lleol hyn yn cael eu cadw.

Cynhelir y digwyddiad hwn yn Archifau Conwy - Darperir lluniaeth.

Ein tri siaradwr yw:

Hanes Teulu: Dr Liz Parfitt, Archifydd, Archifau Conwy

Cadwraeth: Mark Allen, Cadwraethydd, Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru

Archifau ac Amrywiaeth: Dr Marian Gwyn, Cyngor Hil Cymru

Archebwch Nawr