Stori Gymdeithasol Lansiad Cymunedol Amdani Conwy
Amdani! Conwy Launch Event
Ymunwch â ni am 2:30pm ddydd Mawrth, 30 Mai ar gyfer lansiad Amdani! Conwy
Mae Amdani! Conwy yn brosiect gwirfoddoli newydd sy’n cynnig ystod eang o brofiadau diwylliannol cyffrous ar draws y sir. Nid oes rhaid i chi fod yn arbenigwr i wirfoddoli gydag Amdani! Conwy, ond fe ddylech fod yn agored i roi cynnig ar bethau newydd.
Yn y lansiad hwn, bydd tîm Amdani! Conwy yn dweud mwy wrthych am sut i gymryd rhan a’r cyfleoedd anhygoel sydd ar y gweill gennym.
Bydd y digwyddiad hwn hefyd yn gyfle i arddangos talent creadigol Gogledd Cymru. Gyda pherfformiad arbennig gan yr arlunydd a’r bardd, Dr Sara Lousie Wheeler, cerddoriaeth gan Ghostbuskers o Gerddoriaeth a Ffilm Cymunedol TAPE, a darluniad byw gan yr arlunydd, Elly Strigner.
Bydd modd mynychu’r digwyddiad hwn wyneb yn wyneb ac ar-lein er mwyn i bobl fedru mynychu o bell.
Bydd y Cantîn yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy’n darparu lluniaeth i’r rhai sy’n mynychu wyneb yn wyneb.
Mynediad:
Cynhelir y digwyddiad yng ngofod digwyddiadau Canolfan Ddiwylliant Conwy. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y ganolfan yma.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniad 30 munud gyda sesiwn holi ac ateb 15 munud. Bydd Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain yn cefnogi’r digwyddiad hwn.
Bydd dau berfformiad byr yn dilyn y cyflwyniad. Bydd darlleniad byw Dr Sara Louise Wheeler yn cael ei gefnogi gan Ddehonglydd BSL a bydd Makaton wedi’i ymgorffori ym mherfformiad Ghostbuskers.
Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael i fynychu’r digwyddiad wyneb yn wyneb. Os byddwch yn mynychu gyda chynorthwyydd personol, dylech archebu tocyn ar eu cyfer nhw hefyd. Os byddwch yn mynychu wyneb yn wyneb, nodwch y bydd llawer o bobl a sŵn wrth i chi gyrraedd a gadael.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau yn ymwneud â mynediad, cysylltwch â David Cleary, y Swyddog Mynediad a Chynhwysiant ar david@dacymru.com.
Social Story Amdani Conwy Community Launch
Stori Gymdeithasol Canolfan Diwylliant Conwy
Social Story Conwy Culture Centre
Mae Amdani! Conwy’n brosiect partneriaeth rhwng Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Disability Arts Cymru fel rhan o Strategaeth Ddiwylliant Creu Conwy a gaiff ei hariannu gan gronfa Dinasoedd Gwirfoddoli Spirit of 2012.